Cyfarchiad y Pennaeth – Headteacher’s Welcome

Annwyl Rieni/Warchodwyr,

Rydym yn hynod o falch eich bod yn ystyried Ysgol Gymraeg Glanrafon fel yr ysgol ar gyfer addysg gynradd eich plentyn. Rydym yn cynnig ystod eang o brofiadau mewn ysgol hapus a diogel. Rydym yn cyfoethogi hyn gyda gweithgareddau allgyrsiol gyda’r disgyblion yn profi llwyddiant mewn amrywiol feysydd o eisteddfodau’r Urdd i weithgareddau chwaraeon a chelf.

Mae safonau uchel yr addysg a’r dysgu yn adlewyrchiad o waith caled y staff a’r disgyblion. Mae’r awyrgylch gyfeillgar, cydweithredol ac agored yn destun balchder.Rwyf innau’n bennaeth newydd yn yr Ysgol ers Ebrill 2021 ac rwyf yn ymfalchio yn y croeso sydd yma ac yn canmol cwrteisi ein disgyblion. Rwyf yn siwr eich bod yn ymwybodol am y prosiect £4miliwn i ail fodelu a’r estyniad yn Ysgol Glanrafon. Mae hi’n amser cyffroes iawn I fod yn ymuno gyda’r Ysgol.

Rydym yn gwerthfawrogi ein disgyblion ac yn credu y dylai eu hamser yn yr ysgol fod yn werthfawr ac yn foddhaus. Ein gobaith yw y bydd dyddiau eich plentyn yn Ysgol Glanrafon yn llwyddiannus a hapus ac yn aros yn y cof am byth.

Darllenwch ymlaen am ragor o wybodaeth, neu cysylltwch i wneud apwyntiad am ymweliad er mwyn i chi brofi awyrgylch a bwrlwm yr Ysgol Glanrafon.


Dear Parents/Guardians,

We are very pleased that you are considering Ysgol Gymraeg Glanrafon for your child’s primary education. We offer a wide range of experiences in a happy, safe and secure school. We enrich these experiences with out of school activities where pupils experience success in various fields from Urdd Eisteddfodau to sporting activities and art.

The high standard of teaching and learning are a credit to the hard work of both pupils and staff. Equally, we are also proud of the atmosphere of friendliness, co-operation and openness which is always evident.

I am also new to the school after my appointment as Headteacher in April 2021 and I am very proud of the welcome we offer and courtesy and politeness of our pupils. I am sure that you are aware of the £4million remodelling and extension taking place at the school. Indeed, it is a very exciting time to be joining us at Ysgol Glanrafon.

We value our pupils and believe that their time in school should be rewarding and fulfilling. Our hope is that your child’s days at Ysgol Glanrafon will be amongst the happiest days of his/her life.

Please read on for more information or contact the school to make an appointment to visit in order for you to experience the ethos and vibrance at Ysgol Glanrafon.

Mrs Olwen Corben
Pennaeth/Headteacher