BLWYDDYN 6 / YEAR 6 – Rhaglen Taclo’r Tywydd Programme

Gwahoddiad i ddisgyblion a theuluoedd Ysgol Glanrafon, Yr Wyddgrug i ddod i Ŵyl Cymerwch Ran/Take pART Event yn Venue Cymru y penwythnos hwn.
Gan fod y disgyblion wedi bod yn rhan o ffilmio rhaglen deledu Taclo’r Tywydd flwyddyn diwethaf, rydym yn falch iawn o gael rhannu y bydd y rhaglen yn cael ei chynnwys yn yr ŵyl ddydd Sul. Bydd dau weithdy hwyliog a rhyngweithiol yn cael eu cynnal, lle bydd plant yn gallu cymryd rhan mewn gêm yn seiliedig ar y rhaglen, yn ogystal â chael gweld pigion o’r rhaglen ar y sgrin fawr.
Amseroedd y gweithdai (Dydd Sul 18/1/26):  10:45  &  12:40
Bydd y gweithdai’n gyfle gwych i’r plant weld eu hunain ar y sgrin, mwynhau gweithgareddau creadigol, a dathlu eu cyfraniad fel rhan o ŵyl gelfyddydol i’r teulu cyfan.