Canllawiau – Guidelines

Ymddiheuriadau am y ffaith bod darn ar goll yn y wybodaeth yn Saesneg am y dillad i’w gwisgo yn y Canllawiau anfonwyd atoch yn ddiweddar. Dyma’r fersiwn gywir:
Apologies for the fact that a part of the English text regarding the clothing was missing from the Guidelines sent to you recently. This is the correct version:

Yn ystod yr wythnos gyntaf, bydd y disgyblion yn dod i’r ysgol yn eu gwisg ysgol bob dydd. Yn yr wythnosau dilynol, gofynnir i’r disgyblion wisgo dillad gwahanol bob diwrnod – eu gwisg ysgol am dri diwrnod, eu gwisg Addysg Gorfforol am ddiwrnod a gwisgo’u dillad eu hunain bob dydd Mercher.(Byddwch yn derbyn manylion pellach am hyn yn fuan). Bydd gofyn iddynt ddod â chôt law efo nhw hefyd.
During the first week, the pupils will come to school in their school uniform every day. During the following weeks, the pupils are asked to have a change of clothes each day – wear their school uniform for 3 days, their Physical Education kit on one day and their own clothes on a Wednesday.(You will receive further details regarding this in the near future). The pupils will need to bring a coat with them.