Canllawiau Llywodraeth Cymru / Welsh Government Guidelines

Rydym wedi derbyn y canllawiau terfynol gan Llywodraeth Cymru heddiw ynglyn â agor ysgolion ar Fehefin 29ain ac fe fyddwn yn ymateb i hyn o fewn y ddeuddydd nesaf. Byddwn rwan yn ymgymryd a’r dasg o greu asesiad risg manwl ac yna yn creu cynllun o sut i ddychwelyd yn ddiogel i’r ysgol. Byddwn yn rhannu yr holl wybodaeth gyda chi mor fuan â phosib, yna byddwn angen ymateb pendant gennych o ran os fyddwch yn gyrru eich plentyn/plant i’r ysgol ai pheidio.

 

We have received the guidance from the Welsh Government today regarding opening of schools on June 29th and we will respond to this over the next two days. We will be undertaking a detailed risk assessment and producing a return to school plan. We will be sharing all of this information with you as soon as possible and will also need a definite answer from yourselves regarding if your child/children will or will not be returning to school.