CARIAD DROS Y BYD / Diwrnod Santes Dwynwen

Rydym wedi cael gwybod y newyddion gwych heddiw fod cwmni teledu ar gyfer y rhaglenni Ffeil ac Heno (S4C) yn dod i’r ysgol Dydd Gwener yma ar gyfer ffilmio eitem am y Ffair Deganau. Byddwch wedi derbyn ffurflen ganiatad ar gyfer ffilmio heddiw, ac mae’n RHAID i bob plentyn ddychwelyd y ffurflen yma erbyn bore Dydd Gwener os ydynt yn dymuno fod yn ran o’r ffilmio. NI FYDD eich plentyn yn cael ei ffilmio os nad ydych wedi dychwelyd y ffurflen.

Rydym dal i ofyn am gyfraniadau ar gyfer y ffair os gwelwch yn dda. Mae pethau gwych wedi dod yn barod (gweler y lluniau) – bydd amrywiol brisiau yn dechrau o 20c hyd at £2. (Petai’r plant yn gallu dod a arian man, byddai hynny yn wych!) Byddai’n syniad i’r plant ieuengaf rhoi ei arian mewn amlen gyda ei enw arno. 

Hoffwn hefyd eich atgoffa am y raffl ar gyfer ennill y tedi enfawr – tocynnau yn  £1. Os hoffech chi fel rhieni brynu tocyn raffl, gyrrwch yr arian mewn amlen gyda eich enw arno os gwelwch yn dda.  

HEFYD, cofiwch fod hi’n Ddiwrnod Santes Dwynwen felly caiff y plant wisgo rhywbeth coch neu binc. 



We have just heard this morning the exciting news that the television company for “Ffeil” and “Heno” (S4C) are coming to school this Friday to film our Toy Fair. We have sent permission forms home with your child today, and every child MUST return this form signed by yourselves to allow them to be filmed please. They will NOT  be allowed to be filmed if the form has not been returned.