Eisteddfod Sir Cynradd Fflint a Wrecsam / Flint and Wrexham Primary Regional Eisteddfod

Bore da bawb,

Gobeithio eich bod chi gyd yn cadw’n iawn.

Dim ond nodyn (ddim mor sydyn) gen i ddymuno pob lwc enfawr i bawb sy’n cystadlu ‘fory yn yr Eisteddfod Sir Cynradd yn Theatr Y Stiwt. Ewch amdani, a’n bwysicach fyth, mwynhewch y profiad. Llongyfarchiadau mawr i bawb sydd wedi bod yn cystadlu yn ystod y cyfnod yma.

Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi rhoi eu hamser rhydd i fyny er mwyn cefnogi yr Eisteddfodau, y rhieni, athrawon, gwirfoddolwyr, a’r disgyblion, diolch yn fawr i chi.

I’ch hatgoffa chi am drefniadau ‘fory, mae’r cystadlu yn cychwyn am 9:00yb, felly ga i ofyn i chi gyrraedd yn brydlon er mwyn cychwyn ar amser. Mae hi am fod yn ddiwrnod hir o gystadlu, felly er mwyn sicrhau rhediad esmwyth i’r diwrnod ga i ofyn i chi ymgeisio i gyrraedd digon cynnar cyn eich cystadleuaeth/au chi os gwelwch yn dda, rhag ofn ein bod yn rhedeg cyn amser. Yn y digwyddiad ein bod yn rhedeg dros amser, mae’n well cyrraedd yn gynharach na’n hwyrach.

Mi fydd Rhaglen y diwrnod ar gael i bobl gymryd o’r fynedfa. Gan nad ydw i yn gallu argraffu digon o Raglenni i bawb, dwi’n argymell i bobl ‘screenshotio’ y Rhaglen sydd fyny ar gyfryngau cymdeithasol Urdd Fflint a Wrecsam rhag ofn ein bod yn rhedeg allan o Raglenni wrth y fynedfa.

Mae nifer cyfyngedig o lefydd parcio yng nghefn Theatr Y Stiwt, hefo llefydd penodol wedi’u penodi i’r beirniaid a’r cyfeilyddion. Felly mi fydd maes parcio Ysgol Uwchradd Y Grango ar agor o 8:00yb er mwyn i bobl gael gadael eu ceir.

Dwi’n edrych ymlaen yn arw ar gyfer diwrnod llawn o gystadlu a pherfformio ‘fory, ac fe wela i chi gyd yno!

Diolch!

Good morning everyone,

I hope you’re keeping well.

Just a not so quick note from me to wish everyone that’s competing in the Primary Regional Eisteddfod in The Stiwt Theatre a huge good luck. Go for it, and most importantly, enjoy the experience. Congratulations to all that have competed in any Eisteddfod during this period.

I’d like to thank everyone that have given up their free time to support the Eisteddfodau, the parents, teachers, volunteers and pupils, thank you all.

To remind you about tomorrow’s plans, the first competition starts at 9:00am, therefore can I ask that you arrive promptly so that we can start on time. It’s going to be a long day of competing, therefore to ensure a smooth running to the day can I kindly ask that you try and arrive as early as possible before your competition/s start, just in case that we are running ahead of time. In the instance that we’re running a little late, it’s better to arrive earlier than later.

Tomorrow’s Programme will be available to take at the reception. As I am not able to print enough Programmes for everyone, I’d recommend that everyone screenshot the Programmes that’s available to see on Urdd Fflint a Wrecsam’s social media sites, in case that we run out at the reception.

There is a limited number of parking spaces behind The Stiwt Theatre, with specific places reserved for adjudicators and accompanists. Therefore Ysgol Y Grango will be open from 8:00am for everyone to use to leave their car.

I’m very much looking forward for a day full of competing and performing tomorrow, I will see you all there!

Diolch!