“Cymerwch eich sedd ar y soffa, tawelwch eich ffôn, a rhowch bob chwarae teg i’r cystadleuydd nesa’ – mae Eisteddfod T yn ei ôl!”
Yn giamstar ar ganu neu adrodd jôc, yn feistr lip-sync neu’n hoff o ddynwared enwogion? O’r traddodiadol i TikTok, mae’r Urdd am gynnal gŵyl ddigidol yn ystod hanner tymor y Sulgwyn am yr ail flwyddyn yn olynol, ac mae Eisteddfod T am fod yn “fwy arbrofol, blaengar a chyffrous nac erioed o’r blaen!”
Denwyd 6,000 o blant a phobl ifanc i gystadlu yn Eisteddfod T y llynedd. Ond eleni, mae’r Urdd yn anelu at gynnal Eisteddfod T fwy arloesol fyth drwy gynnwys mwy o gystadlaethau ac elfennau newydd er mwyn cynnig profiadau unigryw i holl blant a phobl ifanc Cymru, eu hathrawon a’u teuluoedd.
Mae Rhestr Testunau 2021 a chyfarwyddiadau ar sut i gystadlu bellach ar gael yma
Bydd y ffurflen gofrestru i gystadlu yn agor ar Fawrth y 1af.
Bydd disgwyl i gystadleuwyr gyflwyno gwaith cyfansoddi, fideos o berfformiadau a lluniau o’u gweithiau creadigol o flaen llaw, cyn i’r rowndiau terfynol gael eu darlledu mewn cyfres o raglenni arbennig ar S4C a BBC Radio Cymru dros bum niwrnod, rhwng dydd Llun, 31 Mai a Gwener, 4 Mehefin 2021.
Ewch amdani!
|