Gwobr Aur y Siarter Iaith / Gold Award

Mae achos dathlu yn Ysgol Glanrafon wrth i ni dderbyn cadarnhad ddoe ein bod wedi ennill Gwobr Aur y Siarter Iaith. Llongyfarchiadau i bawb a hoffwn ddiolch i’r holl staff, y Llywodraethwyr ac i chi fel rhieni am eich cefnogaeth cyson i holl weithgareddau’r ysgol. Ond wrth gwrs, mae diolch arbennig iawn i’r disgyblion am wneud hyn yn bosib. Edrychwn ymlaen rwan i barhau a datblygu yr hyn rydym wedi eu cyflawni yn ystod y flwyddyn addysgol nesaf. Unrhyw syniadau – gadewch i ni wybod!
We have cause to celebrate at Ysgol Glanrafon as we had confirmation yesterday of the fact that we have won the Gold Award for the Siarter Iaith. We wish to thank all of the staff, governors and you as parents for your continued support throughout the year. But we need to say a very special thank you to the pupils for making all of this possible. We now look forward to continuing and developing on what we have achieved with the Siarter Iaith during the next academic year. Any ideas – please let us know.