Bore da,
GwyddGig – Gŵyl Gymunedol Gymraeg Yr Wyddgrug
Edrychwn ymlaen i wahodd y gymuned gyfan i’r Wyddgrug ar 12fed-13eg o Fehefin i fwynhau diwrnod llawn o gerddoriaeth byw a gweithgareddau AM DDIM.
Ar nos Wener Mehefin 12fed am 6pm yn Ysgol Bryn Coch, bydd gig arbennig gyda’r bandiau poblogaidd ‘Dadleoli’ a ‘Cordia’ wedi’i drefnu gyda chymorth criw ‘Y Sîn ar y ffin’ Ysgol Maes Garmon. Bydd y noson yn addas i bawb gan gynnwys teuluoedd a bydd diodydd ysgafn a lluniaeth ar gael i brynu ar y noson ynghyd a glitter a thatŵs i’r plant. Cyfle arbennig i fwynhau cerddoriaeth Gymraeg cyfoes.
Ar y dydd Sadwrn, mi fydd amrywiaeth o weithgareddau yn ystod y dydd i ddiddanu plant a phobl ifanc yn yr adeiladau gerllaw, gan gynnwys sesiwn celf a chrefft gyda Dwylo Blêr, Disgo Distaw, gweithdy clocsio gyda Angharad Harrop a Dawnswyr Delyn a chyfle i gymryd rhan mewn amryw o weithgareddau yn neuadd y Seiri gyda’r Urdd a Gwasanaethau Ieuenctid Sir y Fflint.
Bydd cyfle hefyd i fwynhau rhagor o gerddoriaeth byw ar y sgŵar ac o gwmpas y dref – Elin a Carys, Lo-Fi Jones, seren ‘Y Llais S4C’ – Chuts a mwy.
Uchod rwyf wedi atodi y ddau brif boster, amserlen a map yr ŵyl – tybed a fyddai modd i chi rannu’r neges a’r posteri gyda theuluoedd a chymuned eich ysgol?
Bore da,
Menter Iaith’s Community Festival – Gŵyl GwyddGig Festival!
Our Welsh language music and arts festival is returning to Mold on June 12th-13th – Gwyddgig 2026! it will be a pleasure to welcome everyone to Mold to enjoy a full day of live music and FREE activities.
On Friday night, June 12th at 6pm at Ysgol Bryn Coch – there will be a special gig with two popular Welsh bands ‘Dadleoli’ and ‘Cordia’ organised with help from Ysgol Maes Garmon pupils. The evening will be suitable for everyone, including families and anyone who would like to experience live Welsh language music. Drinks and snacks will be available to purchase at the event, along with festival glitter and tattoos.
On the Saturday there will be various activities during the day for children and young people in the buildings around the Daniel Owen square, including a drop-in arts and crafts session with local artist Dwylo Blêr, a clog dancing workshop with dancer Angharad Harrop and Dawnswyr Delyn and more. Also, there will be activity sessions and games with the Urdd and Flintshire Youth Services at our Young People’s Hub.
There will also be live music on and around the square during the day, including folk singers Elin a Carys, Lo-Fi Jones, Chuts and more.
Attached are our posters, timetable and map – would it be possible for you to share it with your school’s families and community.
Cofion,
Carys
Carys Knight
Swyddog Datblygu/Development Officer
Menter Iaith Fflint a Wrecsam
01352 744 040





























