Marathon Ysgol / School Marathon

Rydym yn codi arian ar gyfer buddsoddi mewn offer amser chwarae/cinio, a trafnidiaeth i’n hysgol i roi mwy o gyfleoedd i’r disgyblion gymryd rhan mewn chwaraeon. Rydym am geisio cwblhau cyfanswm o marathon llawn fel ysgol.
Byddwn yn cwblhau 132 o lapiau o gwmpas cae’r ysgol drwy gydol y dydd. Bydd hwn yn ymdrech ar y cyd, gyda phob blwyddyn yn cyfrannu at y cyfanswm, gan gwblhau rhan o’r lapiau.
Sicrhewch fod disgyblion yn gwisgo’n briodol ar gyfer gweithgarwch corfforol ac y tywydd. Mae esgidiau a dillad addas i’r tywydd yn hanfodol.
Diolch am eich cefnogaeth!
We are fundraising for play/lunch time equipment and transport for our school to provide pupils with more opportunities to participate in sports. We are going to complete a full marathon as a school.
We will be completing 132 laps of the school field throughout the day. This will be a collective effort, shared amongst all year groups, with each group completing a portion of the total laps.
Please ensure that pupils are dressed appropriately for physical activity and for the weather on the day. Please can pupils wear suitable footwear and weather-appropriate clothing.
Thank you for your support!