Gan fod y buarth yn parhau i fod yn llithrig gofynnwn i chi gasglu eich plant o’r brif fynedfa heddiw os gwelwch yn dda. Bydd dosbarthiadau 3 a 4 yn cael eu rhyddhau i ddechrau ac yna fe fydd Blwyddyn 5 a 6 yn eu dilyn. Os ydych eisoes wedi rhoi caniatad ysgrifenedig i’ch plentyn gerdded adref neu at un o’r giatiau byddant yn parhau i wneud hyn os nad ydych yn cysylltu gyda ni i newid y trefniadau. Os gwelwch yn dda wnewch chi basio’r neges ymlaen i bwy bynnag sy’n casglu eich plentyn / plant heddiw. Ni fydd newid yn y trefniadau i’r Cyfnod Sylfaen. Gofynnwn yn garedig i chi fod yn amyneddgar gyda ni wrth i ni geisio sicrhau fod pawb yn mynd adref yn ddiogel.
As the yard remains very slippery, we ask that your collect your children from the main entrance today please. Year 3 and 4 classes will be released first followed by Years 5 and 6. If you have previously given written consent for your child to walk home or to one of the gates, they will continue to do so unless you contact us with alternative arrangements. Please share this message with whoever is collecting your child/ren today. There will be no change in the arrangements for the Foundation Phase. We kindly ask that you remain patient while we try to ensure that everyone goes home safely.