Neges yr Urdd message

“Caewch y drysau yn y cefn, y gegin a’r lolfa, diffoddwch y peiriant torri gwair a sychu gwallt a rhowch bob chwarae teg i’r cystadleuydd nesa’, mae EISTEDDFOD T ar fin dechrau…”

Yn dilyn y siom o orfod gohirio Eisteddfod Sir Ddinbych 2020 tan 2021, rydym yn falch i gyhoeddi bydd Eisteddfod T i’w gweld a chlywed ar deledu, radio a’r we rhwng Mai 25 a 29 eleni a bydd yn ddathliad bywiog a byrlymus o holl ddoniau plant ac ieuenctid Cymru, ar lwyfan ychydig yn wahanol i’r un arferol.

Rydym yn gofyn i chi, ein aelodau a hyfforddwyr, i gymryd rhan a chystadlu drwy ddewis cystadlaethau o’r rhestr ac uwch-lwytho eich fideos, clipiau a lluniau o berfformiadau a chynnyrch CYN 12pm Mai 11. Bydd beirniaid arbennig Eisteddfod T yn dewis y goreuon i gyrraedd y rowndiau terfynol sy’n cael eu darlledu mewn rhaglenni arbennig ar S4C, ar wefan S4C ac ar BBC Radio Cymru. A does dim ots os nad ydych chi’n cystadlu yn yr Eisteddfod fel arfer, mae llawer o gystadlaethau newydd yn Eisteddfod T a fydd yn apelio at bawb! Yn ogystal â chystadlaethau traddodiadol fel cerdd dant a chorau, mae cystadlaethau eraill mwy anffurfiol – dynwared, lip-sync a chystadlaethau i’r teulu i gyd… a hyd yn oed anifeiliaid anwes! A byddwn yn cyhoeddi mwy o sialensau a heriau i chi gymryd rhan ynddynt dros y mis nesaf!

Gallwch weld y rhestr testunau a chyfarwyddiadau sut i gystadlu ar wefan http://s4c.urdd.cymru/cy/.

Yma hefyd mae cyfeiliant, gosodiadau, tips ffilmio a recordio  a phopeth sydd ei angen i gystadlu a’r dyddiad cau yw 12pm ar Fai 11.

Felly, ydych chi’n barod am EISTEDDFOD T?

_______________________________________________________

“Shut the living room door, keep the dog quiet and get ready for the next competitor- EISTEDDFOD T is about to start…”

Following the disappointment of having to postpone the 2020 Denbighshire Eisteddfod until 2021, we are pleased to announce that Eisteddfod T will be on a screen and radio near you between May 25 and 29 this year and will be a lively and vibrant celebration of all the talents of the children and youth of Wales, on a slightly different stage from our usual one.

We are asking you, our members and teachers, to get involved and compete by selecting competitions from the list and uploading your videos, clips and photos of performances and work BEFORE 12pm May 11. Our Eisteddfod T judges will choose the best entries to reach the finals to be broadcast in special programmes on S4C, on the S4C website and on BBC Radio Cymru. And it doesn’t matter if you don’t usually compete at the Eisteddfod, there are lots of new competitions at Eisteddfod T that will appeal to everyone! In addition to traditional competitions such as choirs and cerdd dant, there are new fun competitions – entertainment, lip-sync and something for the whole the family…  including your pets! And we will be announcing more challenges for you to take part in very soon!

A list of all the competitions and instructions on how to compete can be found on the http://s4c.urdd.cymru/en/ website.


Here too, you will find pieces to perform, sound tracks, accompaniments, filming and recording tips and everything that is required to enter before the closing date at 12pm on May 11.


So, are you ready for EISTEDDFOD T?

Ein cyfeiriad yw | Find us at

Urdd Gobaith Cymru
Gwersyll Yr Urdd Glan-llyn
Llanuwchllyn, Bala
Cymru LL23 7ST

Cyfrinachedd | Privacy

Hawlfraint © 2020 URDD GOBAITH CYMRU