PLANT MEWN ANGEN / CHILDREN IN NEED

Cofiwch am ddiwrnod Plant Mewn Angen fory. Mae nifer o Bawennau Llawen Pudsey wedi dod mewn yn barod, ond os nad ydych wedi ei dychwelyd, cofiwch wneud fory os gwelwch yn dda. Os hoffech weld eich plentyn/plant yn rhoi Pawen Lawen i’w ffrindiau, dilynwch y linc i’n cyfrif Trydar! Byddwn yn cyhoeddi cyfanswm yr arian ar Radio Cymru yn ystod y dydd!! Hefyd, caiff y plant ddod i’r ysgol fory mewn dillad Pudsey, dillad smotiog neu eu dillad eu hunain (ond cofiwch ni fydd angen iddynt dalu’n ychwanegol am hyn!). Diolch o galon i chi am eich haelioni.
Tomorrow is Children in Need day. We have received many Pudsey Paws already, but if you still haven’t sent your child’s “Pawen Lawen” in, could you please do so tomorrow. If you visit our Twitter account you will see some children giving their friends a “Pawen Lawen!!! We will be announcing the total amount raised on Radio Cymru during the day. Remember, the children can also wear Pudsey clothing, spotty clothing or their own clothes tomorrow (but remember no additional money is needed for this!). Thank you very much for your generosity!