PWYSIG / IMPORTANT

Annwyl rieni/Dear parents,


Gobeithio eich bod yn cadw’n saff ac yn ddiogel yn ystod y cyfnod anodd yma. Hoffai’r holl staff ddymuno’n dda i’n holl disgyblion a’u teuluoedd.

We hope that you are all keeping safe during this very difficult time. We as staff would like to wish all our pupils and their families best wishes and regards.

Rydym wedi paratoi pecynnau i ddisgyblion y dosbarth derbyn hyd at flwyddyn 6 ac fe ddylai fod pob un wedi derbyn y gwaith cyn i’r ysgol gau. Mae digon o waith a syniadau ynddynt i bara am o leiaf pythefnos. Ni fyddwn yn darparu gwaith i’w gwblhau dros wyliau’r Pasg ac felly golyga hyn na fydd gwaith newydd yn cael ei roi i’r disgyblion tan yr wythnos yn cychwyn Ebrill 20fed. Bydd mwy o wybodaeth ynglyn â sut i gael mynediad at y gwaith yma maes o law. Mae hi’n adeg anodd i bawb felly y peth pwysicaf yw fod pawb yn aros adref os y gallant ac yn mwynhau amser gyda’r teulu. Gwnewch y gorau o’r sefyllfa anodd yma a pheidiwch â phoeni os nad yw’r plant yn gwneud digon o waith ysgol. Mae cyfathrebu a chael hwyl yn bwysig iawn hefyd i’w meddylfryd nhw a chi fel rhieni ar y funud. Os gwelwch yn dda, darllenwch y post ynghlwm sydd wedi dod o nifer o ffynonellau o’r Wê.

We have prepared learning packs for the pupils from reception to Year 6 and each one should have received the work before school closed. There is enough work and ideas in them to last at least a fortnight. We will not be providing work to be completed during the Easter holidays and therefore this means that new work won’t be given to the pupils until the week commencing April 20th. More information on how to access this work will be given in due course. It is a very difficult time for everyone so please don’t worry and stress if your child isn’t completing enough work at home. Being at home with family is valuable and communicating and having fun is key at the moment. The most important thing is that everyone stays at home where possible, try to make the best out of the situation and don’t put pressure on yourselves or the children. Taking care of yourselves is a priority at the moment to build up a positive mentality. Please read the post attached taken from various sources on the Internet.

Diolch yn fawr iawn,

Holl staff Ysgol Glanrafon