Rhaglen Eisteddfod Cynradd Fflint a Wrecsam / Flint and Wrexham Primary Eisteddfod Programme


Bore da bawb,

Gobeithio eich bod chi gyd yn cadw’n iawn.

Yn yr e-bost yma, dwi’n atodi Rhaglen Swyddogol ar gyfer Eisteddfod Rhanbarth Cynradd sy’n digwydd Ddydd Sadwrn, 16eg o Fawrth yn Theatr Y Stiwt, Rhosllanerchrugog.

Plis nodwch, nad oes Rhagbrofion yn digwydd o gwbl. Bydd pob cystadleuaeth yn mynd syth i’r llwyfan.

Noder hefyd bod cystadlaethau yn cychwyn am 9:00yb, felly ga i ofyn yn garedig i chi gyrraedd yn brydlon cyn eich cystadleuaeth/au er mwyn galluogi rhediad llyfn i’r diwrnod os gwelwch yn dda.

Mae’n bwysig fy mod yn gwneud sylw am y sefyllfa barcio – mae maes parcio yng nghefn Theatr Y Stiwt, ond ar gyfer nifer cyfyngedig. Os nad ydych chi’n medru cael lle i barcio yng nghefn y Theatr, mae Ysgol Uwchradd Y Grango wedi cytuno i agor eu maes parcio nhw er mwyn i bobl gael parcio’u ceir. Mae’r Ysgol tua 5 munud o gerdded oddi wrth Theatr Y Stiwt.

Dyma gyfeiriad Ysgol Y Grango –  Vinegar Hill, Rhosllanerchrugog, Wrexham LL14 1EL.

Fe fydd lluniaeth yn y Theatr ar ddiwrnod yr Eisteddfod, felly bydd modd prynnu bwyd / diod / snacs drwy gydol y dydd.

Ga i ofyn i chi rannu’r e-bost a’r Rhaglen yma hefo pawb sy’n berthnasol os gwelwch yn dda.

Ga i ddiolch i chi gyd am eich amynnedd tra’n aros am y Rhaglen i’ch cyrraedd, rydw i’n gwerthfawrogi eich cydweithrediad yn fawr iawn.

Rwy’n edrych ymlaen i’ch gweld chi gyd wythnos i Ddydd Sadwrn, ac i fwynhau diwrnod cyfan o’r talent ddi-ddiwedd sydd yn Sir Fflint a Wrecsam.

Diolch!

Good morning everyone,

I hope you’re all keeping well.

In this e-mail I have attached the Official Programme for the Primary Regional Eisteddfod that’s taking place on Saturday, 16th of March in Y Stiwt Theatre, Rhosllanerchrugog.

Please note, there are no Prelims happening at all. Every competition will go straight to the stage.

Also note that the first competition is at 9:00am, therefore can I ask kindly that you arrive in good time before your competition/s to ensure the day runs smoothly.

It’s important for me to make a note about the parking situation – there is a small car park behind the Theatre, with a limited amount of spaces. If you’re not able to get a parking space behind the Theatre, then Y Grango High School have agreed to open their car park for us throughout the day. The School is around a 5 minute walk from the Theatre.

Here’s the address for Ysgol Y Grango – Vinegar Hill, Rhosllanerchrugog, Wrexham LL14 1EL.

The Theatre will be selling refreshments in the Eisteddofod, therefore you’ll be able to buy food / drink / snacks throughout the day.

If you could share this e-mail and Programme with anyone who is relevant please, that would be great.

I’d like to thank you all for your patience while waiting for the Programme to be released, I really appreciate your cooperation.

I’m looking forward to seeing you all in a week on Saturday, and to enjoy a day full of the endless talent that Flintshire and Wrexham hold.

Diolch!