Open Choir Rehearsals with Theatr Clwyd Music
We’re inviting all children and young people who love to sing to come and try out our choirs!
We would love to welcome new members to our youth choirs based in Mold. Our Junior Choir sing a wide range of songs including pop tunes, musical theatre, traditional songs and music from around the world. No experience required – only enthusiasm. Senior Choir is for more experienced singers – they learn their songs using written music (although the ability to read music is not required). Both choirs perform some music in Welsh and are great for both Welsh speakers and learners.
Junior Choir open rehearsals are 4pm – 5pm on Tuesday 14th May and Tuesday 21st May at the St David’s Building, Daniel Owen Square CH7 1AP
Senior Choir open rehearsals are 4.30pm – 6pm on Wednesday 15th May and Wednesday 22nd May at the St Mary’s Church Hall, King Street
No booking required – come along free of charge to one or both open rehearsals and then there is the opportunity to sign up (membership is £20 per half term).
Ymarferion Côr Agored gyda Cherddoriaeth Theatr Clwyd
Rydyn ni’n gwahodd pob plentyn a pherson ifanc sydd wrth eu bodd yn canu i ddod i roi cynnig ar ein corau ni!
Byddem wrth ein bodd yn croesawu aelodau newydd i’n corau ieuenctid ni sydd wedi’u lleoli yn yr Wyddgrug. Mae ein Côr Iau yn canu ystod eang o ganeuon gan gynnwys alawon pop, theatr gerdd, caneuon traddodiadol a cherddoriaeth o bedwar ban byd. Does dim angen profiad – dim ond brwdfrydedd. Mae’r Côr Hŷn ar gyfer cantorion mwy profiadol – maen nhw’n dysgu eu caneuon gan ddefnyddio cerddoriaeth ysgrifenedig (er nad oes angen gallu darllen cerddoriaeth). Mae’r ddau gôr yn perfformio rhywfaint o gerddoriaeth yn y Gymraeg ac maen nhw’n wych ar gyfer siaradwyr Cymraeg a dysgwyr.
Mae ymarferion agored y Côr Iau rhwng 4pm a 5pm ar ddydd Mawrth 14eg Mai a dydd Mawrth 21ain Mai yn Adeilad Dewi Sant, Sgwâr Daniel Owen CH7 1AP
Mae ymarferion agored y Côr Hŷn rhwng 4.30pm a 6pm ar ddydd Mercher 15fed Mai a dydd Mercher 22ain Mai yn Neuadd Eglwys y Santes Fair, Stryd y Brenin.
Does dim angen archebu lle – dewch draw am ddim i un neu’r ddau ymarfer agored ac wedyn mae cyfle i gofrestru (mae’r aelodaeth yn £20 am bob hanner tymor).
Disclaimer:
This e-mail and the information contained in it and in any attachments, are confidential and may be privileged. If you have received this e-mail in error please notify us immediately. If you are not the intended recipient, you are not authorised to, and must not use, disclose, copy, distribute, retain or rely on this e-mail or any part of it. Theatr Clwyd may monitor outgoing and incoming e-mails and other telecommunications on its e-mail and telecommunications systems. E-mail communications cannot be guaranteed to be secure or error free, as information could be intercepted, corrupted, amended, lost, destroyed, arrive late or incomplete, or contain viruses. We do not accept liability for any such matters or their consequences. Anyone who communicates with us by e-mail is taken to accept the risks in doing so. All correspondence is supplied on a confidential basis and remains the property of Theatr Clwyd. Opinions, conclusions and other information in this e-mail and any attachments which do not relate to the official business of the firm are neither given nor endorsed by it. Regardless of content, this e-mail shall not operate to bind Theatr Clwyd to any order or other contract unless pursuant to explicit written agreement.
Ymwadiad:
Mae’r neges e-bost yma a’r wybodaeth ynddi ac mewn unrhyw atodiadau’n gyfrinachol ac efallai ei bod yn gyfyngedig neu’n breifat. Os ydych chi wedi derbyn y neges e-bost yma mewn camgymeriad, rhowch wybod i ni ar unwaith. Os nad chi oedd i fod i dderbyn y neges e-bost, neu os nad ydych wedi’ch awdurdodi i’w derbyn, ni ddylech ddefnyddio, datgelu, copïo, dosbarthu, cadw na dibynnu ar y neges e-bost yma nac unrhyw ran ohoni. Efallai y bydd Theatr Clwyd yn monitro negeseuon e-bost sy’n mynd allan ac yn dod i mewn, a thelegyfathrebu arall ar ei systemau post ac egyfathrebu. Ni ellir gwarantu bod cyfathrebiadau e-bost yn ddiogel neu heb gamgymeriadau, oherwydd gall gwybodaeth gael ei rhyng-gipio, ei llygru, ei diwygio, ei cholli, ei dinistrio, cyrraedd yn hwyr neu’n anghyflawn neu gynnwys feirysau. Nid ydym yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw faterion o’r fath na’u canlyniadau. Rydym yn cymryd bod unrhyw un sy’n cyfathrebu â ni ar e-bost yn derbyn y risigau cysylltiedig â gwneud hynny. Cyflenwir pob gohebiaeth ar sail gyfrinachol ac mae’n parhau’n eiddo Theatr Clwyd. Nid yw safbwyntiau, casgliadau nac unrhyw wybodaeth arall yn y neges e-bost yma, nac mewn unrhyw atodiadau, nad ydynt yn berthnasol i fusnes swyddogol y cwmni’n cael eu rhoi na’u cymeradwyo ganddo. Heb ystyried y cynnwys, ni fydd y neges e-bost yma’n gweithredu i rwymo Theatr Clwyd i unrhyw orchymyn eu gontract arall oni bai ei fod yn unol â chytundeb ysgrifenedig penodol.