Annwyl Rieni a Gofalwyr,
Heddiw, cynhaliwyd ymarfer gweithdrefn cloi yn yr ysgol. Roedd hwn yn ymarfer diogelwch wedi’i gynllunio ymlaen llaw ac nid oedd yn ymateb i unrhyw fygythiad na sefyllfa go iawn.
Pwrpas yr ymarfer hwn oedd helpu disgyblion a staff i ddeall beth i’w wneud pe bai angen diogelu adeilad yr ysgol mewn sefyllfa annhebygol o’r fath. Yn union fel y byddwn yn ymarfer driliau tân yn rheolaidd, mae driliau cloi yn ran bwysig o’n hymrwymiad i gadw pawb yn ddiogel.
Gwnaethom yn siŵr ein bod yn esbonio’r weithdrefn i’r disgyblion mewn ffordd briodol i’w hoedran ac yn eu sicrhau nad oedd unrhyw berygl. Ymatebodd y plant yn dawel ac yn gall drwy gydol yr ymarfer.
Os hoffech chi ofyn unrhyw gwestiynau neu gael mwy o wybodaeth am ein gweithdrefnau diogelwch, mae croeso i chi gysylltu â swyddfa’r ysgol.
Diolch i chi am eich cefnogaeth barhaus wrth ein helpu i gynnal amgylchedd dysgu saff a diogel.
Dear Parents and Carers,
Today, we conducted a lockdown procedure practice at school. This was a planned safety drill and not a response to any real threat or emergency.
The purpose of this practice was to help students and staff understand what to do in the unlikely event that we ever need to secure the school building. Just as we regularly practice fire drills, lockdown drills are an important part of our commitment to keeping everyone safe.
We made sure to explain the procedure to students in an age-appropriate way and reassured them that there was no danger. The children responded calmly and sensibly throughout the practice.
If you have any questions or would like more information about our safety procedures, please don’t hesitate to contact the school office.
Thank you for your continued support in helping us maintain a safe and secure learning environment.


























