Band Sosban Mwyaf Cymru / Wales’ Largest Saucepan Band

Mae Aled Hughes o BBC Radio Cymru wedi dechrau ymgyrch i greu Band Sosban Mwyaf Cymru, ac rydym yn awyddus i’n disgyblion fod yn rhan ohono!!!! Mae cystadleuaeth y Chwe Gwlad yn dechrau nos Wener yma wrth i Gymru chwarae yn erbyn Ffrainc, felly rydym yn gofyn i blant o Flynyddoedd 1 i 6 i ddod a sosban a llwy bren i’r ysgol Dydd Gwener yma, Chwefror 1af os gwelwch yn dda. (Hoffwn nodi yma y bydd disgyblion y Blynyddoedd Cynnar yn cymeryd rhan yn yr ymgyrch yma hefyd ond nid oes angen iddynt ddod a sosban i’r ysgol.) Mae holl disgyblion yr ysgol yn brysur wythnos yma yn dysgu’r gân adnabyddus ym myd rygbi, ac hefyd wedi bod yn ymarfer taro curiad y gân.  Byddwn yn recordio y plant Dydd Gwener wrth iddynt daro “Sosban Fach” ar y sosbenni, ac yna byddwn yn trydaru y fidios @YsgolG #bandsosban.   Mae’n hynod bwysig eich bod yn nodi enw eich plentyn (byddai sticer yn syniad) ar y sosban a’r llwy bren os gwelwch yn dda. Os hoffech wybod mwy am yr ymgyrch yma, dilynwch y linc isod a gwrandewch o 12 munud 20 eiliad ymlaen.  Diolch yn fawr iawn.

Aled Hughes from BBC Radio Cymru has started a campaign to create Wales’ Largest Saucepan band in preparation for the Six Nations that starts this coming Friday. We are eager for our pupils to take part, therefore are asking each child from Year 1 to 6 to bring a saucepan and a wooden spoon into school this Friday, February 1st please. (We would like to note here that the Early Years will also be taking part in this campaign, but there is no need for them to bring a saucepan to school.) 

The pupils have been busy learning the song “Sosban Fach” this week, which of course is a very popular song for Welsh Rugby fans.  We will be recording the children on Friday and will be tweeting the videos @YsgolG #bandsosban. We kindly ask that you put your child’s name (a sticker would be great) on your saucepan and wooden spoon please.  If you would like to know more about the campaign, please follow the link below. Thank you very much. 

https://www.bbc.co.uk/sounds/play/m000246f

p05x8k6l.jpg Aled Hughes – Sosban Fach, Fersiwn Un – BBC Sounds www.bbc.co.uk Mae fersiwn gyntaf Sosban Fach yn barod, ond mae angen rhagor o sosbenni mawr yn y band!