Gair gan Miss Jones / A message from Miss Jones

Image.jpegYSGOL GLANRAFON, YR WYDDGRUG. 

Annwyl bawb/Dear all, 

A hithau’n ddiwrnod olaf i mi yn Ysgol Glanrafon wedi 24 mlynedd o fod yn bennaeth ar yr ysgol arbennig hon, manteisiaf ar y cyfle hwn i ddiolch o waelod calon i chi i gyd am eich cydweithrediad a’ch cefnogaeth i mi’n bersonol ac i’r ysgol yn ystod y cyfnod arbennig hwn. Byddaf yn trysori’r holl atgofion am weddill fy oes. Addysg oedd fy ‘mywyd, ac o hyn ymlaen, caf gyfle i ganolbwyntio ar agweddau o fywyd na chefais y cyfle i wneud cyn hyn! Mae 46 mlynedd yn yr alwedigaeth nodedig hon yn fy llenwi â balchder.  

Diolchir yn gynnes iawn i chi am eich haelioni anhygoel tuag ataf ar achlysur f’ymddeoliad –am y rhoddion, y cardiau a’r holl negeseuon hyfryd rwyf wedi’u derbyn. Gallaf eich sicrhau bod y cyfan yn cael ei werthfawrogi y tu hwnt i eiriau.  

Rwyf wedi cael y pleser erbyn hyn o gyd weithio gyda channoedd os nad miloedd o ddisgyblion, staff gweithgar niferus, llywodraethwyr cydwybodol a rhieni cefnogol. Bu’n fraint i mi gael bod yn rhan o deulu enfawr yr ysgol hon am y 24 mlynedd diwethaf. 

Manteisiaf ar y cyfle hwn i ddymuno dyfodol llewyrchus i Ysgol Glanrafon ac i addysg Gymraeg yn y rhan arbennig hon o Sir y Fflint. Dymunaf bopeth gorau hefyd i’m holynydd Mrs Olwen Corben, a fydd yn cymryd yr awennau o Ebrill 12fed. ymlaen.  

Cofion caredig atoch i gyd. 

With it being my last day here at Ysgol Glanrafon after being the head teacher of this amazing school, I take this opportunity to thank you all most sincerely for your co-operation and support to me personally and the school during this time. I will treasure these memories for the rest of my life. Education was my life, and from now on, I will have an opportunity to concentrate on aspects of life that I didn’t have an opportunity to do so before now! 46 years in this notable profession fills me with great pride. 

You are thanked very warmly for your incredible generosity towards me on the occasion of my retirement – the gifts, the cards and numerous lovely messages that I have received. I can assure you that these are appreciated beyond words. 

I have had the honour by now of working with hundreds, if not thousands of pupils, numerous hard working staff, conscientious governors and supportive parents. It was my honour to be part of this school’s enormous family for the last 24 years. 

I take this opportunity to wish Ysgol Glanrafon and Welsh education in this part of Flintshire a prosperous future. I also wish Mrs Olwen Corben, my successor, all the very best from April 12th. onwards. 

Kind wishes to you all. 

Yn ddi-ffuant/Yours sincerely, 

Ll.M.Jones (Miss)