Annwyl ddisgyblion a rhieni/Dear pupils and parents,
Gobeithio fod pob un ohonoch yn cadw’n iach a diogel, ac i chi gael Pasg dymunol yng nghwmni eich gilydd. Rydym yn eich methu i gyd yn fawr iawn, ac yn meddwl amdanoch yn gyson. Cymerwch ofal a mwynhewch y tywydd braf yma’n ddiogel gyda’ch gilydd.
Atodir Llyfryn a ddarparwyd gan Wasanaeth Seicolegol Sir y Fflint – sy’n rhoi arweiniad i rieni a gwarchodwyr yn ystod yr amser anodd hwn.
It is sincerely hoped that each and everyone of you are keeping safe and healthy and that you had a pleasant Easter together. We miss you all very much, and often think about you. Take care and enjoy the sunny weather safely together.
Attached is a booklet prepared by the Flintshire Psychology Service – which offers guidance to parents and guardians during this difficult time.
Cofion caredig atoch oll – Kindest regards to you all.