Mabolgampau Bl. 1 a 2 a Bl. 3,4,5 a 6 Sports

Mae’n siwr eich bod wedi gweld rhagolygon y tywydd am fory, dydd Mawrth, Mehefin 11eg. – mae’n gaddo glaw mawr trwy’r dydd!!

Oherwydd hynny, mae’r mabolgampau wedi’u gohirio eto – ymddiheuriadau mawr am hyn, ond does dim rheolaeth dros y tywydd!!

Ar ol edrych ar y rhagolygon hirdymor i’r Wyddgrug, rydym wedi ail drefnu ar gyfer y dyddiadau canlynol:

Pnawn Llun, Mehefin 17eg. am 12.45 p.m. – Mabolgampau Blwyddyn 3,4,5&6.

Bore Iau, Mehefin 20fed. am 9.30 a.m. – Mabolgampau Blwyddyn 1 a 2.

Oherwydd bod nifer o ddigwyddiadau eraill wedi’u trefnu ar gyfer y gwahanol flynyddoedd dysgu, nid yw’n hawdd cael un diwrnod sy’n gyfleus ar gyfer cynnal y cyfan.

Bydd penderfyniad yn cael ei wneud ddydd Mercher am fabolgampau Uned y Blynyddoedd Cynnar sydd i’w cynnal fore Iau yma, Mehefin 13eg.am 9.45 a.m. 

You have I’m sure seen the weather forecast for tomorrow, Tuesday, June 11th – it’s forecasting heavy rain all day!!

Because of this, the sports have been postponed  again – many apologies for this, but the weather is beyond our control!!

After looking at the long term forecast for Mold, we have re-organised the event for the following dates:

Monday afternoon, June 17th at 12.45 p.m. – Years 3,4,5 & 6 Sports.

Thursday morning, June 20th. at 9.30 a.m. – Years 1 and 2 Sports.

Due to the fact that a number of other events have been arranged for the various teaching years, it’s not easy to organise a whole day which is convenient to everyone.

A decision will be made on Wednesday regarding the Early Years sports which is to be held this coming Thursday, June 13th. at 9.45 a.m. 

Diolch yn fawr/Many thanks.