Annwyl rieni/Dear parents,
Mae’r sefyllfa parthed uno Ysgol Glanrafon gyda Therrig yn parhau yn aneglur, er ein bod ni wedi clywed yn answyddogol na fydd y ddwy ysgol yn uno ar hyn o bryd. Nid yw Cyngor Sir y Fflint wedi ymateb yn ffurfiol i’n galwadau ac mewn cyfarfod o’r corff llywodraethol neithiwr, mi gytunwyd i anfon neges cryf i’r adran addysg heddiw.
Rydym wedi galw am fuddsoddiad fel rhan o’r rhaglen nesaf o arian ysgolion 21ain Ganrif, er mwyn cwrdd a’r galw cynyddol am addysg Gymraeg yn yr ysgol.
Yn y cyfamser, bydd y drefn yng Nglanrafon yn parhau fel arfer.
The position regarding the proposed amalgamation between Ysgol Glanrafon and Terrig remains unclear, albeit we have heard on the grapevine that they are not progressing an amalgamation at this stage. Flintshire County Council are yet to formally respond to our phone calls and at a meeting of the governing body last night, a firm robust response was agreed and will be sent to the Education department today.
We have called for investment as part of the next tranche of 21st Century Schools funding, to meet the ever increasing demand for Welsh medium education at Glanrafon.
In the meantime, it is business as usual for the school.
Yn gywir/Your sincerely,
Ll.M.Jones (Miss)
Llinos Mary Jones (Miss) (Prifathrawes – Headmistress)