PWYSIG – Taith Feicio Aled Hughes Cycle Journey – IMPORTANT

Fory, fe fydd Aled Hughes o Radio Cymru yn dod heibio’r ysgol wrth iddo gymeryd rhan mewn taith feicio ar gyfer Plant mewn Angen ar draws Cymru. Fe fydd yma rhwng 2.30 a 2.45 (anodd iawn dweud amser penodol). Ein bwriad ydy i fynd a holl ddisgyblion yr ysgol allan o flaen y brif fynedfa i weld Aled Hughes  yn dod lawr yr allt. Gan fod hyn yn agos iawn at amser mynd adref, rydym yn gofyn yn garedig i chi fod yn amyneddgar â ni o ran trefniadau casglu eich plentyn. Gweler y manylion isod :-

Dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1 a 2 – Bydd y plant yma yn mynd adref drwy’r drws ger y Blynyddoedd Cynnar – wrth ochr ble mae’r bws mini yn cael ei cadw. Os gwelwch yn dda am fory yn unig, ydy hi’n bosib i chi ddod at yr ysgol o’r gâit waelod ac i’r buarth. Opsiwn arall ydy wrth gwrs eich bod yn gwylio Aled Hughes yn cyrraedd, ac unwaith ei fod wedi dod lawr at yr ysgol, eich bod wedyn yn mynd i gasglu eich plentyn. 

Adran Iau – Dylai Aled Hughes fod wedi mynd drwy’r Wyddgrug erbyn 3.15 felly fe fydd trefniadau mynd adref yr Adran Iau yn aros yr un fath.

PWYSIG – Mae Blynyddoedd 3,4,5 a 6 wedi derbyn llythyr caniatad heddiw i fod yn rhan o eitem ffilmio i groesawu Aled Hughes i’r ysgol gan gwmni Tinopolis (nhw sy’n creu y rhaglen Heno). Mae’n RHAID I’R FFURFLEN YMA GAEL EI ARWYDDO A’I DYCHWELYD I’R YSGOL FORY os hoffech i’ch plentyn fod yn ran o’r ffilmio!!! Cofiwch wylio Heno nos fory am 7.00. 

pastedImage.png

Tomorrow, Aled Hughes from Radio Cymru will be passing by the school as part of his cycling journey across Wales whilst raising money for Children in Need. He will be here between 2.30 and 2.45 (difficult to say a specific time). Our intention is to take all the school pupils out in front of the school’s Main Entrance to watch Aled Hughes arrive at the school. As the timing is very close to going home time, we ask that you please be patient with us regarding going home arrangements for tomorrow. Please see details as follows :-

Recpetion Class. Year 1 and 2 :-These pupils will be going home through the door by the reception class – by where the school mini bus is kept. For tomorrow please, we kindly ask that you come to the school to pick up your child through the bottom gate and then make your way on to the school yard. Another option of course is maybe that you wish to see Aled Hughes cycling down Bryn Coch Lane towards the school. Once he has left the school, you can come and collect your child. 

Juniors Department – Aled Hughes should have been and gone by 3.15 so the going home arrangements will stay the same for the Juniors department. 

IMPORTANT – Years 3,4, 5 and 6 have received a permission form today to allow Tinopolis (the television company that creates the Welsh programme HENO) to film the pupils welcoming Aled Hughes tomorrow. This form MUST BE SIGNED AND SENT BACK TO SCHOOL TOMORROW if you wish your child to be part of the filming!! Remember to watch Heno on S4C tomorrow evening at 7 o’ clock.