FFAIR LYFRAU SAESNEG – ENGLISH BOOK FAIR.
Yn ôl ein harfer, bydd y Ffair Lyfrau Saesneg gan gwmni Scholastic yn cael ei chynnal yn yr ysgol o ddydd Iau, Tachwedd 16eg i ddydd Mercher, Tachwedd 22ain. Bydd y llyfrau yn cael eu harddangos yn y neuadd. Caiff y disgyblion gyfle i weld y llyfrau yn ystod y dydd ac i brynu. Fe’ch gwahoddir chwithau i ddod i weld ac i brynu, os y dymunwch hynny, yn y Ffair ar ddiwedd y dydd. Bydd cyfle i wneud hynny o 3 – 5 p.m. yn ddyddiol.
Gweler hefyd y daflen o Scholastic sy’n rhoi blas i chi o’r math o lyfrau sydd ar gael, ac y gellir eu harchebu os na fyddant ar y silffoedd.
As usual, the English Book Fair by the Scholastic company will be held in school from Thursday, November 16th. to Wednesday, November 22nd. The books will be exhibited in the school hall. The pupils will have an opportunity to see the books during the day and to buy any. You are also welcomed to come to see and buy if you so wish, in the Fair at the end of the day on a daily basis from 3-5 p.m.
See also the leaflet from Scholastic which gives you a taste of the type of books available, and that can be ordered if they are not included on the shelves.